Canllawiau’r Gymuned
(Gyda diolch i Gasgliad y Werin Cymru)
Rydych yn cytuno na fyddwch yn cymryd unrhyw gamau i uwchlwytho, postio, e-bostio na thrawsyrru mewn modd arall Gynnwys:
- sy’n torri hawliau eiddo deallusol trydydd parti;
- y gwyddoch ei fod yn anwir neu’n anghywir;
- sy’n gyfystyr â thor-ymddiriedaeth cyfreithadwy neu sy’n torri hawliau preifatrwydd unrhyw drydydd parti;
- sy’n anllad neu sy’n difenwi unrhyw berson;
sy’n eich cynnwys chi wrth bersonadu unrhyw berson, cydweithfa neu endid heb eu cydsyniad;
- sy’n datgan yn ffug neu sydd fel arall yn camliwio’ch cysylltiad ag unrhyw berson, cydweithfa neu endid;
- sy’n trin unrhyw berson, testun neu sefydliad sy’n gysylltiedig â’r Cynnwys mewn modd gwamal, cyffrogarol neu ddiraddiol;
- neu sy’n torri unrhyw rai o gyfreithiau neu reoliadau Cymru a Lloegr neu sy’n amhriodol mewn modd arall.